GALWAD - live finale from Blaenau  small.jpg

AMDANOM NI

Wedi’i hysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), deddf ryfeddol Cymru sy’n rhoi hawliau cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, mae GALWAD yn stori sy’n dod â dyfodol posibl i ruo i fewn i’r presennol. Mae’n gwthio ffiniau sut mae straeon wedi cael eu hadrodd, gyda chymeriadau a llinellau stori yn cysylltu ar draws drama deledu, perfformiadau byw, cyfryngau cymdeithasol a newyddion.

 

Roedd y stori'n honni bod y dyfodol am wythnos yn cysylltu â'r presennol - gyda negeseuon a gwybodaeth yn dod drwodd ar sianeli cymdeithasol o 2052. Dim ond yn y dangosiad o'r ddrama ar ddydd Sul 2 Hydref y gwelsom fyd 2052 yn cael ei ddatgelu'n llawn.

 

Roedd y prosiect yn fath newydd o ddarllediad mewn partneriaeth â Sky Arts, gan gynnig y gallu i ddal i fyny gyda’r stori lawn dros 4.5 awr i gynulleidfaoedd.

 

Gwyliodd dros 2.5 miliwn o bobl GALWAD gyda'r prosiect yn cyrraedd dros 5m o bobl trwy ei ddull adrodd straeon amser real unigryw. Roedd yn wir yn weithred o ddychymyg cyfunol gyda channoedd o bobl greadigol a chymunedau yn gweithio ar y prosiect fel dylunwyr, perfformwyr, gwneuthurwyr ffilm, cerddorion, ysgrifenwyr a chriw cynhyrchu tu ôl i’r llenni.

Adeiladodd GALWAD ar hanes sylweddol Cymru o berfformio safle-benodol, ymarfer theatr dan arweiniad ieuenctid ac arbenigedd mewn darlledu a chyfryngau digidol a chynaliadwyedd. Ysbrydoliaeth arbennig i ni oedd nofel Gymraeg Islwyn Ffowc Elis 'Wythnos yng Nghymru Fydd' a Darlith Eisteddfod Genedlaethol Morgan Parry '2050: Wythnos yn y Dyfodol'.

 

Delwedd: Aisha-May Hunte fel Efa yn niweddglo byw GALWAD ym Mlaenau Ffestiniog. Llun gan Kirsten McTernan

GALWAD - live finale from Blaenau Ffestiniog. Photo by Matt Horwood 2.jpg

DARLLENWCH ADRODDIAD YR UCHAFBWYNTIAU