top of page
GALWAD - Sunday 2 October - live finale from Blaenau Ffestiniog. Photo by Kirsten McTernan

PARTNERIAID

Mae GALWAD wedi’i datblygu drwy gydweithio â’r sectorau ffilm, perfformio a chynaliadwyedd a chymunedau lleol ledled Cymru. Rydym wedi adeiladu stori GALWAD gyda'n gilydd, gan gyfuno gwybodaeth leol, creadigrwydd ac arbenigedd. 

Ni fyddai uchelgais a graddfa GALWAD wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ac anogaeth ragorol Cymru Greadigol ac Unboxed. Mae ein partneriaid darlledu, Sky Arts ac S4C, wedi cymryd naid i diroedd newydd drwy ganiatáu i ni herio ffurfiau confensiynol o ddrama.

Daethpwyd â thîm GALWAD ynghyd o sawl sector i ffurfio tîm prosiect pwrpasol. Mae Casgliad Cymru yn bartneriaeth Cymru gyfan traws-sector dan arweiniad National Theatre Wales sy'n cynnwys y Ganolfan Technoleg Amgen, Clwstwr, Celfyddydau Anabledd Cymru, Ffilm Cymru, Frân Wen a Sugar Creative.

Ein partneriaid cymunedol sy’n adeiladu’r byd yw CellB, Citizens Cymru, Celfyddydau Anabledd Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig (EYST) ac Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful.

Mae prosiect Ystafell Newyddion y Bobl yn cael ei arwain gan Rwydwaith Biwro Newyddiaduraeth Ymchwiliol ac Ymatebol. 

Cefnogwyd diweddglo GALWAD yn hael gan Welsh Slate, Rhan o Grŵp Breedon, a ddarparodd defnydd o’u safle a chefnogaeth gan eu Tîm i alluogi’r digwyddiad ddigwydd.

bottom of page