top of page
Young Company residency at CAT. Photo by Mohamed Hassan

CYMNI IFANC

Ffurfiwyd Cwmni Ifanc GALWAD gyda 12 o bobl, rhwng 18 a 26 oed, wedi’u recriwtio drwy broses hygyrch, agored ac anffurfiol.

Fe wnaeth y casgliad hwn o leisiau ifanc o bob cwr o Gymru, a gynullwyd mewn partneriaeth gyda EYST, Citizens Cymru, Frân Wen a Chelfyddydau Anabledd Cymru, helpu i lunio ein prosiect gan dderbyn cefnogaeth a hyfforddiant wedi’u teilwra.

Trwy gyfres o breswyliadau mewn lleoliadau ar draws Cymru, gyda siaradwyr gwadd a hwyluswyr, bu’r Cwmni Ifanc yn archwilio themâu a gwerthoedd craidd y prosiect tra’n ystyried sut rydym yn cychwyn gweithredu a chreu newid. Roedd y grŵp yn hollbwysig wrth helpu i ddylanwadu a chyfathrebu GALWAD, gan weithio ar draws digwyddiadau byw, technoleg greadigol, ffilm, cyfryngau digidol, ymgysylltu cymunedol a newyddiaduraeth. Maent yn bwriadu parhau fel rhwydwaith ac yn edrych am fwy o gyfleoedd i gydweithio'n greadigol.

 

"Mae'n anodd dod o hyd i'r geiriau ond rwy'n teimlo mor ffodus i fod wedi bod yn rhan o'r prosiect anhygoel ac uchelgeisiol hwn, sy'n cwmpasu themâu a negeseuon mor bwysig. Rwyf mor ddiolchgar am yr holl sgiliau, gwersi a ffrindiau newydd y byddaf yn eu cymryd i ffwrdd â mi."

- Buddug, aelod o Gwmni Ifanc GALWAD

Delwedd: Cwmni Ifanc yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen. Llun gan Mo Hassan

Website © National Theatre Wales 2022

GWYLIWCH FFILM Y CWMNI IFANC

Fideo BSL

GWYLIWCH FUNUD GYDA…

bottom of page