top of page
_DSC2856.jpg

YSTAFELL NEWYDDION Y BOBL

Sut ydyn ni'n adeiladu math gwahanol o newyddiaduraeth? Un sy'n cael ei yrru gan bobl, sy'n gydweithredol ac sy'n rhoi'r gymuned yn gyntaf?

 

Mae Ystafell Newyddion y Bobl wedi cefnogi naw o bobl o bob rhan o Gymru i ystyried goblygiadau GALWAD fel newyddiadurwyr dinasyddion – gan gynhyrchu newyddiaduraeth sy’n eu hadlewyrchu, yn eu gwasanaethu ac yn sbarduno newid cadarnhaol.

 

Mae newyddiadurwyr ein hystafell newyddion y bobl yn adrodd straeon gwahanol mewn gwahanol ffyrdd. Nid ydynt wedi cael fawr ddim profiad o newyddiaduraeth tan 3 mis yn ôl, sy'n golygu nad ydynt o dan ddylanwad arferion, fformiwlâu ac uniongrededd newyddiaduraeth draddodiadol. 

 

Fel prosiect, mae GALWAD yn archwilio sut y gallem ddychmygu'r dyfodol yr ydym ei eisiau, fel y gallwn ddechrau ei adeiladu nawr. Mae'n gwneud synnwyr felly, y dylai ein Hystafell Newyddion y Bobl fabwysiadu'r union agwedd honno at newyddiaduraeth - meddwl yn wahanol am bwy sy'n gwneud y dyfodol a sut olwg sydd arno.

 

Erthyglau a gynhyrchwyd gan ein Hystafell Newyddion y Bobl GALWAD:

Grym i'r Bobl

gan Laura Mochan

Y Cyfnod Clo wedi Helpu Prifysgolion i ddod yn fwy hygyrch i fyfyrwyr Anabl

gan Bethany Handley

A allai apêl at foesoldeb fod yn rhan o’r ateb i’r argyfwng tai gwyliau mewn cymunedau gwledig?gan Will Gritten

A allai mewnfudwyr ein helpu i ymdopi â'r argyfwng hinsawdd?
gan Kiki Rees-Stavros

 

Pam y dylem addysgu pobl am anabledd i greu byd mwy hygyrch

gan Sarah Bowidge
 

Sut y gall Clybiau LHDTQ+ helpu pobl ifanc cwiar

gan Laurie Elan Thomas 

Y cylch: Anawsterau a wynebir gan fudwyr Asiaidd benywaidd ym myd gwaith

gan Rha Hira Arayal

Anweladwy: Cymry Du ac Ifanc
gan Shakira Morka 

Mae Ystafell Newyddion y Bobl yn bartneriaeth gyda'r Bureau of Investigative Journalism a'r Solutions Journalism Network. Dysgwch fwy am fenter Ystafell Newyddion y Bobl yma

YN YR ADRAN HON

Building Worlds header image (2).png
Photo by Christ the King Catholic Primary School, Cardiff 8_edited.jpg
bottom of page