top of page

CYHOEDDI ANTHONY MATSENA FEL COREOGRAFFYDD ARWEINIOL GALWAD


Gyda chwe mis yn unig i fynd nes bydd GALWAD yn ymddangos ar draws llwyfannau digidol a darlledu a pherfformiadau byw yng Nghymru, mae’r tîm creadigol y tu ôl i’r digwyddiad diwylliannol Cymreig mawr hwn yn dechrau cael ei ddatgelu. Anthony Matsena fydd y Coreograffydd Arweiniol - yn gweithio gyda'r Coreograffydd Cyswllt, Louise Stern.

Yn ei rôl fel Prif Goreograffydd GALWAD, bydd Anthony Matsena yn arwain y coreograffi ac yn cyfarwyddo'r symud ar draws y prosiect.

Wedi’i eni yn Bulawayo, Zimbabwe a’i fagu yn Abertawe, mae Matsena yn goreograffydd, perfformiwr a chyfarwyddwr sy’n gweithio rhwng cyfryngau dawns, theatr, cerddoriaeth a barddoniaeth. Cyd-sefydlodd Matsena Productions gyda’i frawd Kel yn 2017 a gyda’i gilydd maen nhw’n creu gwaith o amgylch straeon du wrth ddefnyddio eu sgiliau gwahanol mewn dawns, hip-hop, theatr a barddoniaeth Affricanaidd. Anthony ef oedd Cydymaith Ifanc Sadler’s Wells yn 2018 ac mae’n artist cyswllt gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDC Cymru). Mae prosiectau sydd i ddod yn cynnwys 'Codi' gyda CDC Cymru, cyfnod preswyl yn Oriel Mission Abertawe, a 'Shades of Blue' yn Sadler's Wells. Bydd Matsena yn gweithio gyda’r Coreograffydd Cyswllt, Louise Stern, artist ac awdur a gafodd ei magu mewn cymuned Fyddar yn unig ac sy’n defnyddio gwahanol fathau o iaith i archwilio cyfathrebu.

Meddai Anthony Matsena: “Wrth dyfu i fyny yn Abertawe, roeddwn i bob amser yn breuddwydio am fod yn rhan o rywbeth epig a gwir yn fy nhref enedigol. Rydw i mor hapus bod fy mreuddwyd bellach yn datblygu o flaen fy llygaid, ac ni allwn fod yn falchach o fod yn chwifio baner Cymru ochr yn ochr â thîm rhagorol - sydd wedi rhoi'r gofod a'r offer i mi ffynnu. “Nid fi, Louise, a Casgliad Cymru yn unig sy'n gyfrifol am waith arloesol GALWAD. Mae hefyd yn galw ar bobl a chymunedau Cymru i ddod â’u straeon a’u hangerdd i’r prosiect. Dyna sydd fwyaf cyffrous am hyn. Rwy’n wirioneddol ddiolchgar ac ni allaf aros i weld beth rydym yn ei greu gyda’n gilydd.”

bottom of page