DYDD 2
DYDD 2 - POBL
Er mwyn i ni gael dyfodol gwell, mae angen i ni gyd fyw a gweithio gyda'n gilydd mewn cytgord, gyda gwerthoedd a rennir sy'n gwneud y byd yn lle gwell. Beth ddylai'r gwerthoedd hynny fod? Clywch am y gwaith ysbrydoledig y mae EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid) yn ei wneud heddiw i ddod â chymunedau gwahanol ac wedi’u dadleoli at ei gilydd, a meddyliwch am sut y gallem siarad a gwisgo yn 2052. Allwn ni wneud dillad o orennau mewn gwirionedd? Mae Efa yn dweud wrthym am y cymunedau a'r dillad a welodd yn y dyfodol, tra bod y siaradwr byw Kaite O'Reilly yn ateb cwestiynau am adrodd straeon a sut y gall ddod â phobl at ei gilydd.
FIDEOS
GWEITHGAREDDAU
ADNODDAU A CHYSYLLTIADAU 'R CWRICWLWM
Ffasiwn y Dyfodol – Archwilio effaith ffasiwn yn y byd heddiw a dod yn ddylunwyr dillad cynaliadwy yn y dyfodol.
Cyfathrebu Di-eiriau – Gweithgaredd awyr agored i archwilio sut rydym yn cyfathrebu gan gymryd ysbrydoliaeth o fyd natur.
Taith i Gymdeithas Gynhwysol - Mae'r gweithgaredd hwn yn edrych ar yr hyn sy'n ein gwneud ni'n pwy ydyn ni ac yn ein hannog i edrych y tu hwnt i'r hyn sy'n weladwy ar y tu allan.
Image: Behind-the-scenes of the GALWAD live drama. Photo by Kirsten McTernan