top of page
Stage crew filming GALWAD 2052 in Blaenau Ffestiniog Photo by Kirsten McTernan

CYFLEOEDD

Mae GALWAD wedi’i datblygu gyda dros 200 o weithwyr llawrydd ar draws y sectorau perfformio, ffilm, teledu, technoleg ddigidol a chynaliadwyedd. Ein nod oedd i GALWAD adeiladu ar dalentau eithriadol pobl greadigol a chriwiau cynhyrchu yng Nghymru, a chwilio am sut i gefnogi a meithrin talent newydd – gan ganolbwyntio’n benodol ar gastio a recriwtio cynhwysol. 

Mae ein rhaglen sgiliau wedi cynnwys cyfleoedd hyfforddi Troed yn y Drws ar wneud y Ddrama Deledu, hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Anabledd i weithwyr llawrydd a’n tîm prosiect, cyfleoedd camu i fyny ar draws ein tîm cynhyrchu ar gyfer gweithwyr llawrydd a 12 o feicro-gomisiynau ysgrifennu, yn ogystal â rhaglen chwe mis ar gyfer 12 o aelodau Cwmni Ifanc.

Os hoffech chi fod yn rhan o'r prosiect, dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd neu cysylltwch â ni yn recruitment@collective.cymru

Llun: Drama deledu GALWAD mewn Cynhyrchiad Llun gan Kirsten McTernan

Dilynwch ni ar rwydweithiau cymdeithasol
  • Instagram
  • Facebook
  • Twitter
  • LinkedIn
  • YouTube
  • Spotify
bottom of page