top of page

CWRDD Â’R CREWYR: ANTHONY MATSENA


Cyfres o gyfweliadau sy’n rhoi sylw i’r dalent creadigol sy’n cyfrannu at GALWAD yw Cwrdd â’r Crewyr - o goreograffwyr i awduron, ac aelodau’r Cwmni Ifanc i adeiladwyr bydoedd.

Yng nghyfweliad cyntaf y gyfres, siaradom ni â’n Coreograffydd Arweiniol, Anthony Matsena, sy’n rhannu ei stori gyda ni a’r effaith y mae’n gobeithio y bydd GALWAD yn ei gael ar Gymru. 1. Dywedwch wrthym ni amdanoch chi eich hun a pham wnaethoch chi ddechrau dawnsio. Does dim un rheswm penodol pam wnes i ddechrau dawnsio. Roedd dawnsio yn rhywbeth yr oedd fy nheulu yn ei wneud. Pe bai'n rhaid i mi ddewis y rheswm mwyaf, fy mrawd hŷn fyddai hwnnw. Roedd yn caru Michael Jackson, ac roedd bob amser yn dawnsio. Felly, roeddem bob amser yn dawnsio yn y tŷ ac yn dechrau gwthio pa mor bell y gallem fynd yn 13 a 14 oed. Dechreuodd fy ngyrfa ddatblygu fel coreograffydd o'r eiliad y graddiais. Yn London Contemporary roeddwn i’n tybio fy mod yn astudio i fod yn ddawnsiwr, ond mae amseroedd wedi newid ac mae lleisiau iau ym maes coreograffi yn cael eu clywed, sy'n wych. Rydw i wedi gallu dilyn gyrfa fel coreograffydd, sydd wedi bod yn fendith. Ond rydw i wedi parhau i berfformio hefyd, gan gymryd rhan yn Tree gan Idris Elba a Kwame Kwei-Armah yn theatr y Young Vic. Roedd honno’n garreg filltir cŵl. Roedd bod yn Gydymaith Ifanc gyda Sadler’s Wells yn brofiad bythgofiadwy hefyd. Yn fwy diweddar, cydweithiais â fy mrawd, Kel, ar Shades of Blue i Sadler’s Wells a’r BBC – a gweld yr holl waith y gwnaethom yn ystod y cyfnodau clo yn dechrau ffynnu. 2. Sut fyddech chi’n disgrifio eich arddull dawnsio? Cyfuniad o syniadau gwahanol. I gychwyn, roeddwn i’n caru krumping, ac wedyn hip-hop a breakin’. Mae hynny wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Dros y blynyddoedd, dechreuais ddawnsio ballet yn London Contemporary, ac mae hynny wedi cael dylanwad mawr ar fy nawnsio, yn ogystal â fy ngwaith theatr. Mae gen i a fy mrawd Kel lawer o ddylanwadau gwahanol, sy’n seiliedig ar y pynciau ysgol yr astudiom ni a’r byd o’n cwmpas. Mae bywyd bob dydd yn dylanwadu’n fawr ar fy nawnsio. Mae dawns yn effeithio ar symudiadau ac rwy’n mwynhau gwylio pobl a chael profiadau newydd. Yn ogystal, mae protestio ac ymgyrchu yn treiddio mewn i fy ngwaith. Profiadau rwy’n eu gweld o bell sy’n effeithio arnaf mewn rhyw ffordd. Testun, delweddau, mae popeth rwy’n ei weld yn dylanwadu ar fy mherfformiadau. 3. Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni o ymwneud â GALWAD, a beth sy’n eich cyffroi chi am y prosiect? Rwy'n gobeithio cyflwyno stori y gall unrhyw un o Gymru ac unrhyw un ledled y byd uniaethu a chysylltu â hi. Rwy’n gobeithio dod â dyfodol disglair a gobeithiol i’r amlwg trwy adrodd ein stori, nid yn unig gyda’r naratif corfforol ond trwy’r elfennau eraill. Rwyf am wneud i bwy bynnag sydd eisiau bod yn rhan ohono allu gwneud hynny, a chysylltu â gwahanol grwpiau ledled Cymru. Rwyf hefyd yn gobeithio tyfu fel person ac fel artist, oherwydd rwyf wedi fy amgylchynu gan dîm gwych o bobl greadigol. Rwy'n gyffrous iawn am y cyfle i ddawnslunio cymaint o gyrff. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny. Ond o safbwynt ehangach, rwy'n gyffrous iawn i weld beth sy'n digwydd yn y pen draw. Mae'n un o'r prosiectau hynny sy'n ymddangos mor anhygoel ond hefyd mor frawychus, ac weithiau ni allwch hyd yn oed ddychmygu'r diweddbwynt oherwydd ei fod mor epig. 4. Beth sy’n gwneud GALWAD mor wahanol yn eich barn chi? Mae GALWAD yn wahanol i unrhyw beth rydw i wedi bod yn rhan ohono – nid yn unig oherwydd ei fod yn digwydd dros gyfnod o wythnos, sydd yn wallgof, ond hefyd faint o wahanol fathau o gyfryngau sydd yna i gysylltu â nhw ar gyfer y prosiect hwn. O radio, teledu, perfformiadau byw, digidol, a llawer mwy - mae cymaint o wahanol ffyrdd y gallwch chi fod yn rhan ohono. Ac mewn llawer o ddinasoedd gwahanol! Mae'n wallgof meddwl y gall un stori glymu'r holl bethau hynny at ei gilydd. Mae'n weledigaeth epig sy’n perthyn i'r tîm a roddodd hyn at ei gilydd. Nid yw'n dibynnu ar un math o gelfyddyd yn unig, mae'n dibynnu ar gynifer. Felly rwy'n meddwl ei fod yn arbennig yn y ffordd honno, ac rwy'n gyffrous iawn i fod yn rhan ohono. 5. Pa effaith ydych chi'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn ei chael yng Nghymru?

Yr effaith rwy'n gobeithio y bydd yn ei chael yw mai stori Cymru yw stori'r byd. Rwy’n gobeithio bod pobl Cymru yn gwybod bod yr hyn y byddwn yn ei ddweud a’r pethau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn mynd i gael effaith mewn ystyr fyd-eang. A bod ein gwlad yn lle o ddiwylliant, perthyn, amrywiaeth, cariad, purdeb, a phob un o'r pethau hynny. Mae'n stori i'r byd edrych ati mewn cyfnod o obaith.


bottom of page