top of page

ADEILADU BYDOEDD: CYFRES O SGYRSIAU SY'N YSBRYDOLI DYFODOL ADRODD STRAEON


Mae’n bleser gennym ghyoeddi Cyfres Adeiladu Byd – cyfres ar-lein o sgyrsiau dan arweiniad y bobl greadigol yr awduron a’r artistiaid y tu ôl i greu GALWAD a chyfoedion ysbrydoledig yn eu meysydd. Fe'i cynhelir gan y newyddiadurwr ac ymchwilydd ymchwiliol arobryn, Shirish Kulkarni.


Yn anffurfiol ac yn agored i bawb, bydd pob sgwrs Adeiladu Bydoedd yn archwilio syniadau arloesol ym meysydd ysgrifennu ar gyfer y sgrin, dylunio cynyrchiadau, cyd-greu, gweithio gyda phobl ifanc, coreograffi a chyfarwyddo symud ac adrodd straeon traws-gyfrwng.


Yn gyntaf yn y gyfres bydd sgwrs rhwng yr awdur a'r actor Emily Burnett a sgriptiwr enwog, Abi Morgan, Dydd Llun 29 Ebrill am 6pm – yn trafod eu momentau arloesol ac ysgrifennu ar gyfer sgrin yn 2022.


Mae Emily yn rhan o dîm o awduron sy'n sgriptio'r straeon ar gyfer GALWAD. Gallwch ddarganfod mwy am dîm ysgrifennu GALWAD sy’n ehangu yma.


P'un a ydych am ymuno â'r diwydiannau creadigol neu yn chwilio am ysbrydoliaeth - mae ein cyfres sgwrsio ar-lein Adeiladu Bydoedd yn archwilio adrodd straeon, y diwydiannau creadigol a meddwl am y dyfodol gyda rhai o enwau mwyaf nodedig y sector. Ymunwch yn y sgwrs.



Ynglŷn â'r siaradwyr


Mae Emily Burnett yn awdur newydd ac yn actores sydd wedi ennill BAFTA. Ar hyn o bryd mae’n cael ei mentora gan Abi Morgan fel rhan o Raglen Datblygiad Proffesiynol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer Llenorion Croenliw 2021/22. Darlledwyd ei drama radio ddiweddar H is for Hair ar BBC Radio 4. Roedd Emily yn rhan o garfan Lleisiau Cymreig y BBC Writersroom 2019/20. Mae ei hysgrifennu yn aml yn canolbwyntio ar amlygrwydd lleisiau a chymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli, gan edrych ar sut y gallwn chwyddo lleisiau nas clywir. Mae Emily hefyd yn llysgennad i’r elusen MENCAP lle mae’n anelu at ddefnyddio ei safle yn y diwydiant i chwyddo lleisiau’r rhai ag Anableddau Dysgu a’u teuluoedd.


Mae Abi Morgan ar hyn o bryd yn gweithio ar addasiad o Manhattan Beach ar gyfer Wildgaze, cyfres wreiddiol ar gyfer Netflix a Sister Pictures, yn ogystal â chfyres 3 o The Split ar gyfer Sister Pictures/BBC. Mae gwaith Abi yn cynnwys y cyfresi teledu The Split, Sex Traffic, The Hour a My Fragile Heart. Mae ei ffilmiau nodwedd yn cynnwys Shame, The Iron Lady, The Invisible Woman, Suffragette a Brick Lane. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys The Mistress Contract (Royal Court Theatre), Fugee (The National Theatre) a Love Song (Frantic Assembly, Lyric Hammersmith).

Ynglyn â'r llywydd


Mae Shirish Kulkarni yn newyddiadurwr ymchwiliol arobryn, yn ymchwilydd ac yn drefnydd cymunedol, gyda 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn holl ystafelloedd newyddion darlledu mawr y DU. Mae bellach yn gweithio ar ystod o brosiectau arloesi a chynhwysiant newyddiaduraeth, gan gynnwys ymchwilio i ffurfiau newydd o adrodd straeon a helpu i adeiladu'r fenter People’s Newsroom Initiative yn y Bureau of Investigative Journalism.

bottom of page